65053 - Operational Support Grade - HMP Berwyn Welsh Speaking (Prison support Role)

£23,226
6
12 Months
Wales
Wrexham
HM Prison Berwyn, LL13 9QE
AA
Band 2
Permanent
Full Time, Part Time, Part Time/Job Share, Flexible Working
Operational Delivery

Disgrifiad swydd  

Trosolwg o'r swydd 

Mae angen gwaith tîm i gefnogi ein carchardai.

Fel unigolyn ar Raddfa Cymorth Gweithredol, byddwch yn gofalu am redeg carchar prysur o ddydd i ddydd, gan weithio mewn tîm agos i gyflawni amrywiaeth o wasanaethau cefnogi – popeth o ddyletswyddau patrolio a phorth, i reoli danfoniadau, goruchwylio ymwelwyr, a monitro galwadau ffôn a Theledu Cylch Cyfyng. Byddwch yn gweithio amrywiaeth o shifftiau, gan gynnwys nosweithiau i gadw pethau i fynd. Yn wahanol i’n swyddogion yn y carchar, mae eich cyswllt â throseddwyr yn gyfyngedig, er, yn dibynnu ar y carchar penodol, efallai y byddwch yn rhyngweithio â throseddwyr o bryd i’w gilydd.

Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch ar gyfer y swydd hon. Mae helpu i sicrhau bod carchar yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel yn gofyn am grebwyll, synnwyr cyffredin, cyfrifoldeb ac, yn anad dim, gwaith tîm.

Yn ychwanegol at eich cyflog sylfaenol, byddwch yn derbyn:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol pan benodir chi, a bydd yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (cyfrifir ar sail pro-rata)
  • 9 diwrnod o wyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint
  • mynediad at brentisiaeth Lefel 2 gyda thâl mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  • mynediad at gynllun pensiwn hael y Gwasanaeth Sifil
  • benthyciadau tocyn tymor, gostyngiadau adwerthu, Rhaglen Cymorth i Weithwyr a chynllun Beicio i'r Gwaith

 - £23,226

Salary quoted is effective from September 22  

Mae’r ffigurau cyflog a ddyfynnir ar gyfer wythnos waith 37 awr yn cynnwys lwfans gweithio oriau anghymdeithasol o 17% sydd wedi’i gynnwys yn y cyflog i adlewyrchu’r gofyniad i weithio shifftiau dros nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Ac unrhyw daliad atodol ar sail y farchnad na fydd ond yn cael ei dalu mewn lleoliadau penodol.

Oriau 

Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd a bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau ar batrwm shifftiau treigl (mae’r dyddiau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau). Bydd amlder y shifftiau nos yn amrywio ar gyfer pob Sefydliad a gellir ei drafod yn y cyfweliad. I gael enghraifft o amseroedd y shifftiau y gallech chi fod yn eu gweithio  

Cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau

Byddwch yn cael eich defnyddio’n hyblyg i gyflawni rolau gweithredol ar draws y carchar yn ôl yr angen. Mae cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau yn debygol o gynnwys:

  • dyletswyddau wrth y gât/porth: sicrhau bod staff, ymwelwyr a cherbydau yn dod i mewn ac yn gadael yn ddiogel; chwilio staff, carcharorion, ymwelwyr, contractwyr a cherbydau; dosbarthu a chasglu allweddi/setiau radio staff 
  • ystafell reoli: gweithredu system radio’r sefydliad a monitro teledu cylch cyfyng gan sicrhau bod pob gweithgaredd amheus yn cael ei riportio
  • ymweliadau: archebu ymweliadau; canfod pwy yw’r ymwelwyr a’u prosesu ar ôl iddynt gyrraedd, eu hebrwng os oes angen
  • sensor/gohebiaeth: monitro/cofnodi post a rhoi gwybod am unrhyw eitemau anghyfreithlon neu waharddedig (contraband), gan gynnal a diogelu tystiolaeth 
  • dyletswyddau nos: sicrhau bod drysau celloedd yn cael eu cloi/diogelu a bod pob carcharor yn ddiogel a bod cyfrif amdanynt 
  • derbynfa: helpu i gefnogi tasgau priodol yn y dderbynfa; tynnu lluniau carcharorion; casglu dogfennau ar gyfer y broses eiddo; chwilio/tynnu llun pelydr-x o eiddo carcharorion a pharseli sy’n dod i mewn; derbyn eitemau ar gyfer carcharorion a gwneud yn siŵr bod yr holl seliau’n gyflawn wrth storio eiddo 
  • goruchwylio carcharorion: goruchwylio carcharorion yn ôl yr angen; cyfnewid dillad/eiddo carcharorion a chynorthwyo swyddogion gyda symudiadau llif rhydd
  • danfon bwyd: danfon a chasglu bwyd gyda throli, a allai gynnwys defnyddio cerbyd dosbarthu trydan 
  • dyletswyddau gyrru: cludo carcharorion a’u hebrwng i’w cyrchfan yn y cerbyd cellog; casglu post o’r swyddfa ddidoli leol  
  • galwadau ffôn: monitro’r system Rhifau Adnabod Personol (PIN), cadw cofnod o geisiadau PIN dros y Ffôn gan garcharorion; cwblhau’r holl waith papur perthnasol gan gadw trywydd archwilio o sgyrsiau; sicrhau bod rhifau cyfreithiol yn gyfreithwyr cofrestredig  
  • gweithdrefnau a phrotocolau: deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol, ymateb yn briodol i roi gweithdrefnau brys ar waith a’r camau sy’n ofynnol mewn perthynas â digwyddiadau

Sut i wneud cais

Cam 1

  1. Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun
    Cliciwch ymgeisio a rhowch eich manylion personol ar ein ffurflen gais



  2. Sefyll prawf byr ar-lein
    Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau manwl ar sut i sefyll ein prawf ar-lein. Mae hwn yn asesiad seiliedig ar ymddygiad sy’n asesu a oes gennych chi’r cryfderau naturiol a’r dewisiadau ymddygiad priodol i fod yn unigolyn ar Raddfa Cymorth Gweithredol. Byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau bach sydd wedi’u llunio i ysgogi eich dewisiadau ymddygiad naturiol (e.e. sut rydych chi’n tueddu i wneud penderfyniadau yn naturiol). Er nad yw’r tasgau eu hunain wedi’u gosod yng nghyd-destun y rôl, maen nhw wedi’u llunio i arsylwi ar yr ymddygiadau sydd bwysicaf i’r rôl. Bydd hyn yn cymryd tua 40 munud i’w gwblhau, ond nid oes terfyn amser.
    Does dim angen i chi fod yn chwaraewr gemau i wneud yn dda yn y prawf hwn. Rydyn ni’n chwilio am eich gallu naturiol i lwyddo yn y rôl.

Cyn i chi sefyll y prawf, cewch gyfle i ymarfer a pharatoi ar gyfer y prawf go iawn. Byddwch yn cael gwybodaeth a dolen i weld hwn a’r prawf ei hun ar ôl i chi wneud cais.

Cam 2

Os byddwch yn pasio’r prawf, byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad.

Yn y cyfweliad, byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau canlynol o ran Proffil Llwyddiant -

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Cyflawni'n Gyflym
  • Rheoli Gwasanaeth o Safon
  • Cydweithio

 

Bydd y cyfweliad yn un cyfunol sy’n cynnwys ymddygiadau a phrofiad. Bydd yn gyfle delfrydol i ddweud mwy wrthym amdanoch chi eich hun, eich hanes gwaith neu eich profiadau personol, er mwyn i ni ddod i’ch adnabod yn well ac asesu pa mor addas fyddwch chi ar gyfer gwaith carchar. Bydd eich Cryfderau’n cael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.

Proffiliau Llwyddiant  

Bydd Proffiliau Llwyddiant yn galluogi dull recriwtio tecach a mwy cynhwysol drwy ein galluogi i asesu’r ystod o brofiadau, galluoedd, cryfderau, ymddygiadau a sgiliau technegol/proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi. Mae’r dull hyblyg hwn o recriwtio yn canolbwyntio mwy ar ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn ar gyfer y swydd benodol. I gael rhagor o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant i gefnogi eich cais cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad.

 

Oherwydd pandemig Covid-19, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau diogelwch ymgeiswyr a staff. O ganlyniad, bydd rhai carchardai’n cynnal cyfweliadau fideo byw. Bydd yr holl fanylion yn cael eu hanfon atoch cyn eich cyfweliad.

 

Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru). 

I gael rhagor o wybodaeth 

Cynnig swydd: swydd wag ‘teilyngdod’

Swydd wag ‘teilyngdod’ yw hon. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.

Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r asesiad, bydd y carchar yn cynnig swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi’n dod ar gael.

Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.

Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru).

Manylion Lwfans  

Yn ogystal, byddwch yn cael lwfans gwaith anghymdeithasol o 20% sydd wedi’i gynnwys i adlewyrchu’r gofyniad i weithio yn y nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae’r lwfans wedi’i gynnwys yn y ffigurau cyflog a ddyfynnwyd.

 

Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil

Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr

 Mae’r cynllun ‘Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Lle Gwych i weithio i gyn-filwyr’ yn cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad.  Caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog.

I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i:

https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans

 

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y nodir yn Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol:

1-    I Shared Service Connected Ltd (0845 241 5358 (Llun-Gwener 8am - 6pm) neu drwy e-bost i Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com);

2-    I Wasanaeth Adnoddau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder (resourcing-services@justice.gov.uk);

3-    I Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (manylion ar gael )

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn anelu at gael gweithlu sy’n cynrychioli’r gymdeithas ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr o ddewis. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a lles ac yn ceisio creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod yn perthyn. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud hyn ewch i: https://www.gov.uk/government/organisations/ministry-of-justice/about/equality-and-diversity.

 

Cymorth anabledd

Mae'r Gwasanaeth Sifil yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i roi cyfle i bawb ddangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd, drwy wneud addasiadau i bob elfen o’r broses recriwtio ac yn y gweithle. Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd.

Byddwch yn gallu gwneud cais am addasiadau rhesymol i’r broses recriwtio yn y ffurflen gais. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Ymholiadau Recriwtio SSCL.

Nodwch, os gwelwch yn dda - rydych chi’n gwneud cais am ymgyrch clwstwr ac, o’r herwydd, mae’n bosib y cewch eich dyrannu i unrhyw un o’r carchardai a restrir yn yr hysbyseb hwn.

Disgrifiad Swydd Cymraeg  

Berwyn Welsh.docx (1).pdf – 99KB 

Y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol  

Hanfodol

Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru).

Manylion Lwfans  

Yn ychwanegol, byddwch yn cael lwfans gwaith anghymdeithasol o 17%. Mae’r hwn wedi’i gynnwys yn y ffigurau cyflog a ddyfynnwyd.

Essential
The job holder must be able to fulfil all spoken aspects of the role with confidence in English or (when specified in Wales) Welsh.
In addition you will receive 20% unsocial working allowance. This has been included in the salary figures quoted.

Gwybodaeth Ychwanegol  

Trefniadau Gwaith a Rhagor o Wybodaeth

Mae rhai o delerau ac amodau gwasanaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder – gan gynnwys NOMS – yn newid fel rhan o’r gwaith o ddiwygio’r Gwasanaeth Sifil. Bydd y newidiadau’n berthnasol i staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac sy’n newydd i’r Gwasanaeth Sifil. Bydd staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ôl gweithio i gyflogwyr eraill yn y gwasanaeth sifil yn trosglwyddo i delerau newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt eisoes ar delerau ‘wedi’u moderneiddio’ yn eu swydd bresennol, neu’n cael telerau ‘heb eu moderneiddio’ y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt ar delerau ‘heb eu moderneiddio’ yn eu swydd bresennol. Bydd manylion ar gael os cynigir y swydd.

Yr oriau gweithio safonol ar gyfer y swydd hon yw 37 awr yr wythnos, heb gynnwys egwyliau sy’n ddi-dâl.

Os ydych chi’n gweithio i’r NPS ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y swydd wag hon ar gael ar sail Benthyciad am hyd at 2 flynedd. Gwahoddir ceisiadau gan staff cymwys addas.

Mae’r Benthyciad/Secondiad yn amodol ar gymeradwyaeth Uned Busnes yr ymgeisydd sydd wedi'i ddewis, a dylid ei sicrhau cyn cadarnhau’r penodiad.

 

Manteision

Gwyliau Blynyddol

Mae’r flwyddyn wyliau yn dechrau ar 1 Mawrth. Os nad oes gennych batrwm gwaith safonol, mae’n bosib y bydd eich hawl gwyliau yn cael ei chyfleu ar ffurf oriau neu ddiwrnodau, fel y bo’n briodol. Mae hawl gwyliau yn cael ei gyfrifo ar sail pro rata, a byddwch yn cael gwybod faint yn union o wyliau sydd gennych chi wrth gael eich penodi. Os cawsoch chi eich penodi’n fewnol a bod eich gwyliau yn arfer cael ei gyfrifo ar ffurf diwrnodau, bydd yn dal i gael ei gyfrifo felly.

Gwyliau Banc, Gwyliau Cyhoeddus a Diwrnodau Braint

Mae gennych chi hawl i gael 9 diwrnod (66 awr a 36 munud) i gydnabod gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint. Bydd yr oriau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau blynyddol. Bydd gofyniad i chi weithio ar rai gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc, yn amodol ar eich patrwm shifftiau ac ar anghenion gweithredol y sefydliad.

Buddion

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o ddau gynllun pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn sy’n gweddu orau i chi.

Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith

Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn awyddus i hybu trefniadau gwaith amgen. Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff weithio’n fwy hyblyg pryd bynnag y bydd rheolwyr a sefydliadau yn gallu derbyn ceisiadau i wneud hynny. Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn cynnig amodau gwaith hyblyg, yn amodol ar gyflawni NVQ a chyfnod prawf boddhaol.

Blaendal Tocyn Tymor

Ar ôl dau fis o wasanaeth, byddwch yn gymwys i wneud cais am flaendal tocyn tymor i brynu tocyn tymor chwarterol neu am gyfnod hwy er mwyn teithio rhwng eich cartref a’ch man gwaith.

Hyfforddiant

Yn ogystal â’r rhaglen gynefino unigol a gyflwynir yn y Sefydliad a fydd yn cynnwys hyfforddiant diogelwch ac amrywiaeth, bydd gofyn i chi ddilyn cwrs hyfforddi pythefnos o hyd a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich dyletswyddau’n effeithiol.

Mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff ac mae’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n cynnwys meysydd fel Rhaglenni Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Delio ag Ymddygiad Heriol, Atal Hunanladdiad a Gwrth-Fwlio.

Mae cyfleoedd i ymuno â rhaglenni dyrchafiad, ac mae’r Gwasanaeth Carchardai yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi perthnasol ar gyfer swyddi unigol.

Cymhwysedd

Bydd angen cynnal gwiriadau diogelwch ac adnabod ar bob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd

Mae cyfnod prawf o 6 mis yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr mewnol wneud cyfnod prawf os nad ydyn nhw wedi gwneud cyfnod prawf i NOMS yn barod

Bydd yn rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai.

Dyddiadau cyfweliadau  

I’w cadarnhau

To be confirmed

01/12/2022, 23:55 hours.

Dyddiad Cau: Gorffennaf  1st Rhagfyr 2022, 23:55pm

Dyddiadau Cyfweliadau: I’w cadarnhau

Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0845 241 5359 (o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8am - 6pm) neu anfonwch e-bost at Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com Nodwch gyfeirnod y swydd os gwelwch yn dda -  65053


Success Profiles will enable a fairer and more inclusive method of recruitment by enabling us to assess the range of experiences, abilities, strengths, behaviours and technical/professional skills required for different roles. This flexible approach to recruitment focuses more on finding the right candidate for the specific role. To find out more about Success Profiles to support your application please click here for further guidance.

if you feel that your application has not been treated in line with the Civil Service Recruitment Principles, please contact SSCL (Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com) in the first instance

We have provided detail of the assessment stages and areas being assessed to help you prepare for completing your application form, and to advise of what will be assessed following this, if you successfully pass the application stage.


Application form stage assessments

Interview stage assessments

There is 1 interview stage for this vacancy.
Behaviours
Communicating and Influencing
Delivering at Pace
Managing a Quality Service
Working Together
Strengths may also be assessed at interview but these are not shared in advance.

A Great Place to Work for Veterans

The "Making the Civil Service a Great Place to work for veterans" initiative includes a guaranteed interview scheme to those who meet the minimum criteria to provide eligible former members of the Armed Forces with opportunities to secure rewarding jobs. Allowing veterans to continue to serve their country, and to bring highly skilled individuals with a broad range of experience into the Civil Service in an environment, which recognises and values your previous service in the Armed Forces.
For further details about the initiative and eligibility requirements visit : https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans

Redeployment Interview Scheme

Civil Service departments are expected to explore redeployment opportunities before making an individual redundant. The MoJ are committed, as part of the Redeployment Interview Scheme, to providing opportunities to those who are 'at risk of redundancy'.

MoJ are able to offer an interview to eligible candidates who meet the minimum selection criteria, except in a limited number of campaigns. Candidate's will not be eligible for the Redeployment Interview Scheme if they are applying on promotion.

This job is broadly open to the following groups:

· UK nationals

· nationals of the Republic of Ireland

· nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK

· nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families

· nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)

· individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020

· Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service

Further information on nationality requirements (opens in a new window) https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules

This Vacancy is closed to applications.